Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cyfarwyddwr Gwybodaeth newydd i’r Drindod
27.01.2010
Mae Mrs Wendy Xerri wedi cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gwybodaeth yng Ngholeg Prifysgol y Drindod.
Bydd Mrs Xerri, sy’n ymuno â’r tîm uwchradd, ym gyfrifol am arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws y Brifysgol yng nghyswllt gwasanaethau gwybodaeth a’r holl swyddogaethau cymorth technegol cysylltiedig sy’n hanfodol i reoli data’n effeithiol a datblygu a lledaenu gwybodaeth ac ysgolheictod yng Ngholeg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, wrth i’r ddwy Brifysgol baratoi i fod yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn hwyrach eleni.
Y mae’n ymuno â’r Drindod o swyddfeydd y Fagloriaeth Ryngwladol yng Nghaerdydd lle’r oedd yn Brif Swyddog Gwybodaeth Fyd Eang a Chyfarwyddwr TG am bum mlynedd ar ôl gweithio fel Rheolydd TG gydag S4C am 15 mlynedd yn flaenorol.
Yn raddedig o Brifysgol Morgannwg, mae Wendy yn briod a chanddi dri o blant, Eirian, Tomos a Joshua.
Dywed Wendy “Mae ymuno â’r Drindod yn teimlo fel dod adref. Mae bod yn rhan o gymuned ac ymuno â sector sydd wedi datblygu proffil rhyngwladol i Gymru yn gyffrous iawn”.
Ychwanegodd yr Is-ganghellor Dr Medwin Hughes “Rydym yn croesawu Wendy i’r Brifysgol. Y mae’n aelod allweddol o staff fydd yn gyrru gwasanaethau gwybodaeth er mwyn galluogi i’r Brifysgol ddarparu’r gefnogaeth orau i fyfyrwyr a staff. Mae gan y Brifysgol strategaeth ddysgu ac addysgu uchelgeisiol sy’n cynnwys myfyrwyr ar y campws ac i ffwrdd o’r campws. Bydd Wendy a’i thîm o staff yn gyfrifol am gefnogi amgylchedd academaidd ymhle gall myfyrwyr a staff wireddu eu huchelgais”.
D I W E D D
Llun: Wendy Xerri
Ffotograffydd: Ric Bower
Nodyn at y Golygydd
Mae Coleg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn cydweithio ar hyn o bryd i greu prifysgol newydd i wasanaethu anghenion cymunedau De-orllewin Cymru yn ogystal ag anghenion ehangach Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol.
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant fydd enw’r Brifysgol, a bydd yn manteisio ar arbenigedd a gwybodaeth y ddau sefydliad i greu sefydliad deinamig fydd yn darparu mwy o gyfleoedd a gwerth ychwanegol i’w myfyrwyr.
Yn bennaf oll bydd y Brifysgol yn parhau ag ymrwymiad y Drindod a Llanbedr Pont Steffan i ddarparu profiad addysg uwch o safon i'w holl fyfyrwyr i'w helpu i wireddu’u potensial yn llawn.
Rhagwelir y bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu'i myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2010.
Manylion Pellach
Eleri Beynon e.beynon@drindod.ac.uk 01267 676790
Gweld pob eitem o'r newyddion...
