English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Gosodiad celf yn mynd ar bererindod

21.12.2009

Heather Dobbins Mae myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf wedi creu gwaith celf o dros 600 o gerfluniau ar gyfer arddangosfa sy’n mynd â gwylwyr ar daith bersonol.

Gwaith Heather Dobbins, myfyrwraig hŷn o Cross Hands yw Pererindod 09.  Dywed “Os ydy bywyd yn siwrne, yna rydyn ni i gyd yn deithwyr – rhywrai sy’n siwrnea.  Mae nifer ohonom yn mynd ar siwrne am resymau hiraethus neu sentimental; yn aml heb sylweddoli ein bod ar bererindod a’n bod ni mewn gwirionedd yn bererin”.

Dywed er bod yr arddangosfa wedi cael ei gosod yn wreiddiol yn wynebu allor Capel y Brifysgol, nid yw pob pererindod yn ymwneud â chrefydd.

Pererindod 09Mae’r gwaith celf yn denu’r gwyliwr i mewn meddai Heather.  “Pan rydych chi’n cerdded at y darn rydych chi’n ymuno â’r bererindod.  Wrth i chi basio’r gosodiad a’r dorf rydych chi’n ymateb i bob un o’r bodau sydd yno.  Yn y diwedd rydych chi’n sefyll a wynebu’r dorf ac yn eu tro mae pob un yn cyfathrebu â chi”.

Cafodd Heather y syniad o wneud darlun o amlinelliad a wnaeth ac arweiniodd hyn at yr awydd i archwilio pobl sy’n wahanol mewn un ffordd neu’i gilydd.  Yn wreiddiol roedd y darnau’n dangos ffigyrau yn gweddïo a ffyrdd gwahanol grefyddau o weddïo.  “O’r fan honno fe dyfodd yn ddarn a oedd mewn sawl ffordd yn ymdebygu i waith Anthony Gormley ond yn syth fe gafodd fywyd ei hunan a throi’n rhywbeth cwbl wahanol” dywedodd.

Dros ddau ddiwrnod gwahoddwyd pobl i Rag-Gapel y Brifysgol i gerflunio ffigwr o glai er mwyn ei osod i mewn i’r bererindod a hefyd i nodi syniad neu weddi i’w gynnwys yn y gwaith.  Ffilmiwyd rhan o’r broses a bydd yn dod yn rhan o waith myfyriwr arall yn y drydedd flwyddyn, sef Stuart Eckton sy’n astudio BA mewn Astudiaethau Ffilm.

Mae’r gwaith bellach wedi symud i mewn i’r Rhag-gapel ac felly wedi cymryd ffurf gwahanol.  “Does dim rhaid i bererindod fod yn brofiad crefyddol” meddai Heather.  “Mae pobl y dyddiau hyn yn ymgynnull i addoli delwau a allai fod yn Porsche, MacDonald’s neu i’r rhai sy’n ceisio lloches, gallent ymgynnull o flaen Swyddfa Mewnfudiad”.



Manylion pellach

Eleri Beynon
01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...