English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Darparwyr Addysg yn ymuno i helpu busnes

17.12.2009

Darparwyr Addysg yn ymuno i helpu busnes Mae prifysgolion a cholegau ledled De Orllewin Cymru wedi ymuno â’i gilydd i gefnogi busnesau lleol yn y cwymp economaidd.

Arweinir Menter Cefnogaeth Alwedigaethol De Orllewin Cymru, a ariannir drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gan Goleg Prifysgol y Drindod mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, Coleg Sir Gar, Coleg Abertawe, Coleg Gorseinon, Coleg Castell Nedd a Phort Talbot gyda chefnogaeth gan Siambr Fasnach De a Gorllewin Cymru, a Siambr Fasnach Gorllewin Cymru, Busnes yn y Gymuned, Gyfra Cymru, Hyfforddiant Twristiaeth Cymru /Gallu a Grwp Twristiaeth Bwyd Ffres.

Dywedodd Meri Huws, Dirprwy Is-Ganghellor Arloesi, Sgiliau a Chymuned y Drindod  “Bwriad y prosiect yw symleiddio’r ffordd y gall busnesau gael rhychwant o gefnogaeth ymarferol a hyfforddiant alwedigaethol wedi’i dargedu a gynigir gan y partneriaid er mwyn eu helpu yn ystod yr argyfwng economaidd sydd ohoni.  Bydd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth yn cael eu datblygu’n arbennig er mwyn cwrdd â’r angen a’u cyflwyno ar gost gostyngedig”.

Llun - Chwith i'r Dde: Clive Ball – Coleg Castell Nedd Port Talbot, Glyn Jones – Copleg Sir Benfro, Wendy Weber – Coleg Sir Benfro, Mike Theodoulou – Siambr Canolbarth a Gorllewin Cymru, Brian Miles – Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Diana James – Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth Cymru,  Simon Jenkins – Coleg Abertawe, Meri Huws (Cadeirydd) Coleg Prifysgol y Drindod, Sarah Kelley - Coleg Prifysgol y Drindod, Jennie Evans - Coleg Prifysgol y Drindod, Kathryn David – Prifysgol Fetropolitan Abertawe,  Caroline Townsend Jones – Coleg Gorseinon, Catherine Palmer – Busnes yn y Gymuned a Cledwyn Davies – Coleg Sir Gâr.



Manylion pellach

Eleri Beynon
01267 676790


Dylai cwmnïau gysylltu â Sarah Kelley yng Ngholeg Prifysgol y Drindod s.kelley@trinity-cm.ac.uk neu 01267 676729

Gweld pob eitem o'r newyddion...