English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Cyngerdd i'w Chofio

17.12.2009

Cyngerdd i'w Chofio

Cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig yr Is-Ganghellor nos Sul, 13 Rhagfyr yng nghwmni Côr y Drindod a Cherddorfa Siambr Cymru o dan arweiniad Eilir Owen Griffiths.

Perfformiwyd rhaglen amrywiol yn cynnwys gwaith Karl Jenkins, Robat Arwyn, Euros Rhys Evans a Jason Robert Brown.

Cyngerdd i'w ChofioPerfformiodd y fyfyrwraig yr ail flwyddyn Einir Dafydd ei gwaith ei hyn, Eira Cynnes, gyda’i chyd-fyfyrwraig Sara Owen a chafwyd unawdau gan Gwydion Rhys Griffiths, enillydd Unawd o Sioe Gerdd, Eisteddfod yr Urdd, Elin Wyn Williams, Lynwen Haf Roberts ac Anwen Price.

Gadawyd y gynulleidfa yn ysu am ragor wrth i’r gyngerdd dod i ben â pherfformiad gwefreiddiol o One Day More o’r sioe gerdd, Les Miserables, gan Claude-Michel Schönberg.

Cyngerdd i'w Chofio

Cyngerdd i'w Chofio

Cyngerdd i'w Chofio

Cyngerdd i'w Chofio



Eleri Beynon

01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...