Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cynhadledd yn rhoi llais i’r Cyfryngau
14.12.2009
Bydd cynhadledd flynyddol Cyfrwng yn cael ei chynnal yng Ngholeg Prifysgol y Drindod ar 13 a’r 14 o Fai 2010. Nod Cyfrwng yw rhoi cyfle i ysgolheigion, myfyrwyr ac ymarferwyr cyfryngol drafod pynciau allweddol sydd yn wynebu’r cyfryngau yng Nghymru gan roi llwyfan i’r meysydd Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau Newydd a Theatr a Pherfformio yn arbennig.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu’r gynhadledd ymaac i wahodd y sector addysg uwch a'r diwydiant at ei gilydd” meddai’r ddarlithwraig Non Vaughan Williams, sy’n gyfrifol am drefnu’r gynhadledd gyda’i chydweithwyr yn y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. “Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd papurau ar gyfer y gynhadledd ar y thema “Lleisiau”. Gellir ymdrin â’r thema mewn sawl modd gwahanol, er enghraifft lleisiau newydd, y llais unigol, y lleisiau na chlywir mohonynt, lleisiau amgen, technoleg a’r llais, llais a phlwraliaeth, neu leisiau’r gorffennol. Gellir hefyd gyfuno meysydd gan gynnwys gwleidyddiaeth, hanes, economi, ieithoedd, cerddoriaeth ac yn y blaen. Yn ogystal â phapurau yn adlewyrchu ar brif thema'r gynhadledd, croesawir awgrymiadau ar gyfer sesiynau atodol yn edrych yn benodol ar rôl cynhyrchu cyfryngol ym maes ysgolheictod”.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu neu fynychu’r gynhadledd gysylltu â Non Vaughan Williams ar 01267 676641 n.v.williams@drindod.ac.ukneu ewch i wefan cyfrwng www.cyfrwng.com.
Gweld pob eitem o'r newyddion...
