Gweld pob eitem o'r newyddion...
Pennaeth newydd Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon
11.12.2009
Mae Mrs Marian Thomas wedi cael ei phenodi yn bennaeth ar yr Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Ngholeg Prifysgol y Drindod yn olynydd i Dr Dylan Vaughan Jones.
Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, mae Mrs Thomas yn athrawes brofiadol yn y Gymraeg a Chymraeg fel ail iaith sydd wedi gweithio mewn ysgolion ledled Cymru yn cynnwys fel Pennaeth Adran yn ysgolion Syr Thomas Picton, Hwlffordd, Ysgol Gyfun Aberteifi ac Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.
Bu’n Athrawes Ymgynghorol yn Sir Dyfed ac yn Ymgynghorydd Ysgolion Ardal Cyngor Sir Penfro rhwng 2000 a 2007 cyn dod i’r Drindod fel Ymgynghorydd Addysg Gymraeg.
Tra yn y Drindod mae Marian wedi bod yn gyfrifol am ddiweddaru cynllun, a ddefnyddir gan adrannau Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon ar draws Cymru, i ddatblygu sgiliau dysgu Cymraeg i blant ail-iaith mewn ysgolion cynradd. Ariennir y cynllun drwy’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Marian am ei phenodiad 'Teimlaf hi'n fraint cael arwain tîm mor flaengar ym maes hyfforddiant cychwynnol athrawon. Gweithiwn mewn partneriaeth ag ysgolion yr ardaloedd cyfagos gyda'r nod o ddarparu addysg o'r radd flaenaf i ddisgyblion. Mae datblygu gweithlu i hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws y sector hefyd yn flaenoriaeth gennym.'
D I W E D D
Manylion pellach
Eleri Beynon
01267 676790
Gweld pob eitem o'r newyddion...
