English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Darlithydd yn hyrwyddo ymarfer corff i bob oedran

08.12.2009

Peter Herbert a disgyblion Ysgol y Preseli Mae Peter Herbert yn ymgynghorydd ffitrwydd sydd yn gyfarwydd â gweithio gyda’r gorau. A bellach, yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, y mae’n gweithio gyda’r offer diweddaraf sy’n gallu cystadlu gyda chanolfannau ffitrwydd ledled y wlad.

“Mae gennym yr offer prawf mwyaf soffistigedig ar gyfer athletwyr yn y DU” gwenodd Peter, sydd bellach yn ei chwedegau ac wedi bod yn gweithio yn y maes ffitrwydd am ddeugain mlynedd a mwy.  Mae’n gyfarwyddwr y Labordy Perfformiad Dynol ac yn ddarlithydd mewn ffisioleg ymarfer corff yn y Drindod. Mae ei brofiad yn ei sefydlu fel un sydd ar y blaen ym maes gwyddoniaeth ffitrwydd chwaraeon.  Er enghraifft yr oedd yn ymgynghorydd ffitrwydd i Glwb Rygbi Llanelli rhwng 1985 – 2000 ac ar gyfer tîm rygbi Cymru rhwng 1992 – 1994 a 2000 – 2002. Yn ystod y cyfnodau hwnnw, enillodd y Scarlets gynghreiriau cenedlaethol a chwpanau niferus, gan gyrraedd rownd gynderfynol y Gwpan Ewropeaidd ddwywaith gan faeddu Awstralia, a oedd yn Pencampwyr y Byd, yn 1993.

Y mae Peter wedi gweithio gyda’r gwasanaethau arfog, yn cynnwys aelodau o’r lluoedd elit, ac wedi hyfforddi paffwyr a enillodd medalau Byd a’r Gymanwlad. Y mae hefyd yn credu yn yr hyn y mae’n ei ddweud oherwydd am flynyddoedd lawer yr oedd ymhlith prif gystadleuwyr yn y byd yn y gystadleuaeth rhwyfo da do, Concept 2.

Y mae’n ddyn â neges – sef bod ymarfer corff yn bwysig, i bob oedran.

Ddydd Llun (Rhagfyr 7), yr oedd yn traethu’r neges honno i aelodau o Glwb Rotari Caerfyrddin a oedd yn ymweld â’r Drindod. “Y thema ar gyfer y Rotarians oedd heneiddio ac ymarfer corff ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i gyflwyno buddion iechyd ymarfer corff wrth i chi fynd drwy bob cyfnod mewn bywyd.” Cafodd y Rotarians gyfle i weld yr offer prawf soffistigedig sydd yn y lab.  “Mae’r math o offer sydd gyda ni yma yn y Drindod cystal â’r hyn a ddefnyddir gan Ffederasiwn Olympaidd Prydain i fonitro eu cystadleuwyr elit”,  meddai Peter.  “Y mae’n caniatáu i ni fonitro perfformiad yn gydamserol.  Gallwch weld cyfraddau’r galon, newidiadau yn yr ysgyfaint, lefelau carbon deuocsid. “Mae rhai o sgwad cyfredol y Scarlets yn cael eu herio yma ynghyd ag athletwyr profiadol lleol.  Mae’r offer yn amlwg o werth i fyfyrwyr chwaraeon yma yn y Drindod ond rydym yn gallu gweithio gydag eraill er mwyn iddyn nhw ddefnyddio’r offer hefyd. Rydym yn codi pris am wneud hyn ond rydym yn ceisio helpu pobl sydd eisiau dadansoddiad ystadegol o’r radd flaenaf ar lefel ei ffitrwydd.”

Mae ymgais Peter i ledaenu’r neges am ‘lab’ y Drindod yn mynd tu hwnt i sgyrsiau i fudiadau megis y Rotary. “Y mae’n hanfodol i ni gynnwys myfyrwyr Lefel A sydd â diddordeb mewn addysg gorfforol” dywedodd.  “Y dyddiau hyn, mae astudio addysg gorfforol wedi datblygu mewn ffordd ddamcaniaethol a phan rydyn yn cael myfyrwyr lefel A yma gallwn ddangos iddyn nhw’n union sut mae pethau’n gweithio.  Er enghraifft y mae yna fformiwla V02 Max sy’n ymwneud â gallu aerobeg person.  Yma, gall myfyrwyr Lefel A weld y fformwla yn gweithio’n gydamserol gan gasglu data ystadegol ac yna ei ddadansoddi nôl yn yr ystafell ddosbarth. Mae myfyrwyr o naw ysgol wahanol wedi bod yma yn barod ac y mae’r adborth yn wych.  Y mae hwn, wrth gwrs, yn gyfleuster da iawn ac yn fuddiol iawn i’r Drindod ond mae hefyd yn wych er mwyn helpu’r gymuned ehangach, nid dim ond y Brifysgol. Mae’r gwaith yn y ‘lab’ hefyd yn gallu cynnig cwrs gloywi i athrawon addysg gorfforol.  Rydym wedi cael nifer o athrawon addysg gorfforol Sir Benfro yma ac rwy’n gwybod bod y gair yn ymledi’n gyflym iawn ymhlith y gymuned addysgu yn ne-orllewin.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y labordy perfformiad dynol yn y Drindod gysylltu â Peter Herbert ar 01267 676767.



Manylion pellach:

Eleri Beynon
01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...