English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Unawdydd Cymraeg yn ennill Gwobr Llais Stuart Burrows

30.06.2009

Caryl Hughes Fe enillodd mezzo soprano ifanc o Aberdaron Wobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows a £4,000 yn ystod prif gystadleuaeth Gŵyl y Drindod dros y penwythnos.  Rhoddodd y beirniaid Brian Hughes a Beatrice Unsworth y wobr gyntaf i Caryl Hughes, 29, a fu’n astudio yn Academi Llais Ryngwladol Caerdydd o dan gyfarwyddyd Dennis O'Neill.  Y pum unawdydd arall oedd Adele O’Neil, o Hendy,  Justina Gringyte, o Lithuania, Rhian Lois Evans o Dregaron, Ben Harcourt ac Andrew Finden ill dau o Awstralia.

Mae’r gystadleuaeth, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, wedi ennill ei phlwyf erbyn hyn ac yn ôl y mae safon y cystadlu yn mynd o nerth i nerth.  Dywedodd yr Is-Ganghellor Dr Medwin Hughes “Rydyn ni’n llongyfarch yr unawdwyr i gyd am gystadleuaeth arbennig yn rhan o Ŵyl y Drindod ac mae’n diolch hefyd i Brian Hughes a Beatrice Unsworth am feirniadu. Danfonwn ein cofion at Stuart Burrows a oedd yn methu mynychu eleni ond rwy’n siŵr y byddai wedi bod wrth ei fodd gyda safon y gystadleuaeth.  Y mae wedi bod yn Ŵyl lwyddiannus iawn sydd wedi dod â pherfformwyr o safon fyd-eang i Sir Gaerfyrddin. Y mae hefyd wedi bod yn gyfle i’n myfyrwyr gyfrannu at y prif ddigwyddiadau ynghyd â threfnu a pherfformio mewn Gŵyl ymylol. Y mae’r Drindod yn ganolog i ddatblygu cyfleoedd dwyieithog ym myd y celfyddydau a diwylliant yn yr ardal ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r fenter hon ymhellach yn y dyfodol.”

Beatrice Unsworth, Medwin Hughes, Caryl Hughes a Brian Hughes

Cystadleuwyr, cyfeilyddion, beirniad gyda’r Is-Ganghellor Dr Medwin Hughes, a’r Cyfarwyddwr Artistig Eilir Owen Griffiths

D I W E D D

Nodyn at y Golygydd

Lluniau

  1. Caryl Hughes
  2. Beatrice Unsworth, Medwin Hughes, Caryl Hughes a Brian Hughes
  3. Cystadleuwyr, cyfeilyddion, beirniad gyda’r Is-Ganghellor Dr Medwin Hughes, a’r Cyfarwyddwr Artistig Eilir Owen Griffiths

Nodyn at y Golygydd

Caryl Hughes

Caryl HughesYmddangosodd Caryl am y tro cyntaf i Opera Cenedlaethol Cymru yn nhymor 2007/08 fel Teti/Le nozze di Teti e di Peleo o dan gyfarwyddyd Carlo Rizzi, a pherfformiodd y brif ran yn Cenerentola i Opera’r Alban. Mae perfformiadau eraill yn cynnwys cyngherddau a datganiadau yn The Sage Gateshead, Canolfan Mileniwm Cymru a Neuadd Wigmore Hall, lle oedd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr  Kathleen Ferrier 2007.

Graddiodd Caryl ag anrhydedd o Academi Cerdd Frenhinol yn 2007 ar ôl cwblhau’r cyrsiau ôl-raddedig ac opera, yn astudio gyda Noelle Barker ac Audrey Hyland.  Y mae hefyd yn meddu ar BA(Anrhydedd) yn y Gyfraith o Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affrica Llundain.  Derbyniodd Caryl yr Ysgoloriaeth gyntaf Tywysog Cymru ar gyfer Efrydiau Uwchradd mewn Cerdd er mwyn mynychu Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd o dan gyfarwyddyd Dennis O'Neill. Mae gwobrau eraill yn cynnwys Ysgoloriaeth W.Towyn Roberts (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2005), ail yn y Wobr Opera Rara Patric Schmid Bel Canto Prize 2007 ac ysgoloriaeth S4C ar gyfer datblygu doniau.  Fe enillodd Wobr Canwr Ifanc y Flwyddyn Morriston Orpheus 2006 ac aeth i rownd derfynol Cystadleuaeth Canwyr Cymru 2006 yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Adele O'Neill

Adele O'NeillCafodd Adele O'Neill ei chodi yn Hendy, Pontarddulais. Astudiodd canu yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall Llundain gyda  Laura Sarti.

Mae Adele wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru.  Fe gyrhaeddodd rown derfynol Canwr Ifanc Cymreig MOCSA 2005.  Y llynedd enillodd Gystadleuaeth Canu’r Fedal Aur Ryngwladol yn Eisteddfod Llangollen.

Mae ei phrofiadau operatig yn cynnwys Micaela (Carmen), Adele (Die Fledermaus) –Opera Porth Tywyn,  Filipnevya (Eugine Onegin) – Opera Genedlaethol Cymru. Mini (La Boheme), Antonia (The Tales of Hoffman), Leonora (Fidelio), Papagena (Magic Flute) ensembl opera GSMD.  Arabella (Arabella), Contessa (Marriage of Figaro) – Ysgol Opera Cymru.

Mae rhannau mewn sioeau cerdd yn cynnwys Eliza (My Fair Lady) Maria (West Side Story), Julie (Carousel), Christine (Phantom of The Opera).

Perfformiadau oratorio, The Elijah- Mendelssohn, The Messiah- Handel, Verdi’s Requiem, Mozart’s Requiem, A child of our Time – Tippett, Gloria – Vivaldi, St. John Passion-Bach, Mass in time of war-Haydn, Requiem-Faure.

Y mae Adele wedi perfformio fel unawdydd gyda nifer o grwpiau ensemble drwy’r DU.  Mae perfformiadau dramor yn cynnwys cyngherddau ym Mharis, Sbaen, Sienna, Prague, Krakow & Budapest. Mae Adele newydd ddychwelyd o daith yn Vancouver, Toronto a Los Angeles fel prif unawdydd gyda Chôr Meibion Llanelli.

Justina Gringyte

Justina GringyteDerbyniodd Justina Fagloriaeth Cerdd mewn Perfformiad Lleisiol o Academi Cerdd a Theatr Lithuania yn 2008 ac aeth yn syth i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru i astudio tuag at Ddiploma Ôl-raddedig mewn Perfformiad Lleisiol ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Phillips Scholarship 2008-2009.

Mae ei llwyddiannau mewn cystadlaethau’n cynnwys:-

  • Chwefror 2009, International Mozart Singing Competition – Semi finalist
  • Awst 2008, Llais Llambed James Pantyfedwen, Wales – fourth Prize
  • Hydref 2007, International Competition for Young Singers, Lithuania – Second Prize
  • Rhagfyr 2005, Lithuanian National Competition for Young Singers - Diploma

Mae’n astudio o dan Buddug Verona James. Angela Livingstone, ac mae wedi cwblhau dosbarthiadau meistr gydag Eiddwen Harrhy, Claudine Ansermet a Patricia Macmahon.

Mae ei phrofiadau opera yn cynnwys:

  • Pauline, Queen of Spades - RWCMD Opera Scenes 2009
  • Meg Page, Falstaff - RWCMD Opera Pathway Scenes 2008
  • Dorbella, Cosi Fan Tutte - RWCMD Opera Pathway Scenes 2008
  • The Crane (Complete Role), the Crane and The Stork – NOA Festival, Lithuania 2008

Rhian Lois Evans

Rhian Lois EvansMae Rhian Lois yn enedigol o Bontrhydygroes, Tregaron.  Y mae ei phrif lwyddiannau hyd yn hyn yn cynnwys ennill Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts, Ruban Glas Osborne Roberts yn 2006, ail yn ysgoloriaeth Towyn Roberts ac ennill Gwobr Roland Jones 2008 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Rhian Wobr Bryn Terfel  2009.

Mae Rhian yn ymddangos yn aml mewn cyngherddau ac mae wedi rhannu llwyfan gyda phrif gorau meibion Cymru yn cynnwys Brythoniaid, Llanelli, Dursley, Cwmbach, Ar ôl Tri, Maelgwn, Pendyrys…… Yr oedd hefyd yn unawdydd yng Ngŵyl Gerdd Llandeilo 2008.  Mae ymddangosiadau ar y teledu’n cynnwys Dechrau Canu Dechrau Canmol, Noson Lawen, Wedi 3 ac Wedi 7.

Yn gyn aelod o Opera Genedlaethol Ieuenctid Cymru y mae ei pherfformiadau’n cynnwys ‘Candide’ Bernstein a Rake’s Progress, Stravinsky.

Mae Rhian wedi perfformio’r unawd soprano gyda Cherddorfa Symffoni  Birmingham Symphony Orchestra (CBSO) ar gyfer Requiem Mozart gyda Simon Halsey.  Y mae wedi cael cynnig ysgoloriaeth i astudio cwrs ôl-raddedig yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Llundain ym mis Medi.

Russell Ben Harcourt

Russell Ben HarcourtDerbyniodd Russell B.Mus (Perfformio) o Brifysgol Sydney, Conservatoire Cerdd  Sydney yn 2006, Mae Russell ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gwblhau MA yn Academi Frenhinol Cerdd Llundain.

Mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys :

2009

  • Opera Tableaux gyda  Royal Academy Opera,  a gyfarwyddwyd gan David Edwards

2008

  • Aelod o Raglen Artist Ifanc Britten-Pears, Gŵyl Aldeburgh. Suffolk
  • Gwahoddiad i gymryd rhan yn rhaglen artist ifanc Jette Parker yn y Royal Opera House, Covent Garden
  • Dosbarthiadau Meistr gyda Michael Chance, Rita Dams a Rosamund Illing.

Man ei wobrau’n cynnwys:

  • Ymddiriedolaeth Josephine Baker (2008)
  • Ysoloriaeth Arts Musica (2008)
  • Grant Astudio Opus 50 Charitable Trust (2008)
  • Gwobr y Fon. Joan Sutherland  2008, Ffederasiwn y Celfyddydau Noosa

Andrew FindenAndrew Finden

Derbyniodd Andrew Finden ei radd Bagloriaeth mewn Cerdd o Brifysgol Southern Queensland; a’i Ddiploma mewn Opera, yn Conservatorium Cerdd Sydney. Y mae bellach yn ei ail flwyddyn o gwrs Opera Meistr mewn Cerdd yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall Llundain o dan gyfarwyddyd Robert Dean. 

Mae rhai o’i rhannau Operatig yn cynnwys:-

  • Saethwr yn The King goes forth to France, Sallinen, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall – (Mawrth 2009)
  • Vertigo, La Rencontre Imprévue, Gluck, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall
  • Stiward, Flight, Dove, Opera Ieuenctid Prydeinig, 2008
  • John Brooke, Little Women, Adamo, International Vocal Arts Institute Tel Aviv, 2008
  • Maître-Jean (cover), La Colombe, Gounod, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, 2008

Mae rhai o lwyddiannau Andrew mewn cystadlaethau’n cynnwys:

  • Ysgol Gerdd a Drama Guildhall – ysgoloriaeth ar gyfer ffioedd wedi’i gefnogi gan Curriers’ Company, Ysgoloriaeth Hazell a’r  Margery and Frederick Stephen Wright Eisinger Bursary.
  • Bwrsari Grwp Cefnogi Opera a’r Celfyddydau, 2007.
  • Ysgoloriaeth Demant Dreikurs, Sydney Conservatorium of Music, 2007.
  • Terfynydd yng Nghystadleuaeth Canu Awstralia
  • Gwobr Mathy 2006: Ysgoloriaeth Nelly Apt, Gwobr Phoebe Patrick, Gwobr Nell Pascall, Gwobr Royal Northern College of Music
  • Trydedd Wobr, Cystadleuaeth Aria Cenedlaethol, 2006

Manylion pellach

Eleri Beynon
01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...