English
Map o'r Safle
Gwasanaethau Myfyrwyr

Llety

Noakes

Ar gyfer y profiad prifysgol gorau...

byw ar y campws

Byddwch yn annibynnol... ond yn ddiogel...

Gwir werth eich arian...

  • £98.00 yr wythnos, £52 dros wyliau’r Nadolig a’r Pasg (prisiau 2010/11)
    Ffioedd a Thaliadau
  • Yn cynnwys brecwast a swper nos (Dydd Llun - Dydd Gwener - amser tymor)
  • Ystafelloedd gwely sengl eang
  • Dim costau cudd ee, biliau trydan/nwy/dwˆ r
  • Rhwydwaith diwifr am ddim
  • Bwrsari yn seiliedig ar brawf moddion hyd at £400, (ysgoloriaethau eraill ar gael)
  • CCTV a diogelwch 24-awr

Pob cyfleuster o fewn cyrraedd...

  • Ystafelloedd dysgu
  • Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Dysgu
  • Ystafelloedd TG
  • Canolfan Chwaraeon
  • Ystafell ffitrwydd newydd sbon (am bris aelodaeth cystadleuol)
  • Pwll Nofio
  • Bwyty Merlin
  • Undeb y Myfyrwyr

Byw ar gampws... yn gyfleus ar gyfer...

  • bod yn aelod o un o’r clybiau chwaraeon niferus gan gynnwys pêl-fasged, pêl droed, rygbi, syrffio, a hoci
  • ymuno â Chôr y Brifysgol
  • mynd i ddigwyddiadau gyda’r nos
  • cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol niferus
  • cymdeithasu gyda ffrindiau yn eich neuaddau preswyl neu yn Undeb y Myfyrwyr

Gwnewch gais yn gynnar i archebu eich lle
Cysylltwch â: David Doyle, Swyddog Llety
Ffôn: 01267 676714
E-bost: d.doyle@drindod.ac.uk

Llety

Mae'r llety sydd ar gael yng Ngholeg Prifysgol y Drindod wedi'i leoli ar y prif gampws. Rydym yn ffodus ein bod yn gallu cynnig llety i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn Neuaddau Preswyl ag arlwyaeth. Gall myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn, a'r myfyrwyr ôl-raddedig, ddewis aros yn ein fflatiau hunanarlwy en-suite.

Gan fod ein campws yn gymharol fach, ceir ymdeimlad o gymuned glòs yma, ac mae ein myfyrwyr yn elwa o hynny. Yn ogystal ceir cyfleusterau chwaraeon a hamdden ardderchog ar y safle.

Wedi'i leoli i'r gorllewin o dref sirol Caerfyrddin, mae campws y Brifysgol mewn man cyfleus iawn, gyda'r M4 wrth law, prif orsaf reilffordd yng Nghaerfyrddin ei hun, a maes awyr rhyngwladol rhyw awr i ffwrdd yng Nghaerdydd.

Gallwn letya 512 o fyfyrwyr, oll mewn ystafelloedd sengl, ac mae ein pecynnau llety ac arlwyaeth gyda'r rhataf ym Mhrydain.

Llety i fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf

MyrddinFel arfer cynigir llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn y Neuaddau Preswyl ag arlwyaeth- Myrddin, Y Twr a Non. Mae arddull y llety sydd ar gael yn safonol, gyda phob ystafell wely yn cynnwys basn ymolchi a'r myfyrwyr yn rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi. Cynigir dewis o opsiynau arlwyaeth hyblyg a luniwyd i gwrdd â gofynion unigol y myfyrwyr.

Llety dau lawr yw Myrddin sydd wedi'i leoli ar ymyl y campws. Mae wedi'i rannu'n 13 o unedau ag iddynt 8 ystafell wely yr un. Mae pob uned yn cynnwys cyfleusterau ystafell ymolchi ac ystafell fwyd fechan.

Yn ôl y sôn Y Twr yw'r adeilad uchaf yng Ngorllewin Cymru gyda golygfeydd gwych o Sir Gaerfyrddin o'r lloriau uchaf. Ar bob un o'r 10 llawr mae 5 ystafell wely, gyda'r myfyrwyr yn rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi. Mae ystafell fwyd fechan ar y rhan fwyaf o'r lloriau.

Mae neuadd Non wedi'i lleoli yng nghanol y campws. Adeilad pedwar llawr ydyw sy'n cynnwys 71 o ystafelloedd gwely, wedi'u rhannu'n bedair uned. Mae'n llai rhanedig na'r Neuaddau eraill, ac felly mae'n ddelfrydol ar gyfer y myfyriwr mwy cymdeithasgar!

Llety Arall

NoakesAr gyfer myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn, a myfyrwyr ôl-raddedig, mae llety hunanarlwy ar gael ar y campws.

Neuadd breswyl tri llawr yw Neuadd Archesgob Noakes sydd wedi'i rhannu'n bedwar bloc. Mae pob bloc yn cynnwys 9 fflat hunangynhwysol gydag 8 ystafell wely ym mhob un. Mae'r ystafelloedd yn rhai en-suite gyda chawod a thoiled. Ym mhob fflat ceir ystafell gyffredin a chegin fawr ar wahân, sy'n addas ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno paratoi eu bwyd eu hunain.

Mae ein fflatiau hunanarlwy yn boblogaidd iawn felly cynghorir myfyrwyr i gysylltu â'r Swyddog Llety cyn gynted ag y bo modd. Mae'n bosibl y bydd nifer fechan iawn o'r ystafelloedd hyn ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, yn enwedig myfyrwyr aeddfed, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau arbennig.

Ffioedd a Thaliadau

MyrddinLlety (Ar y campws) 2010-11

Neuaddau arlwyedig (rhannu cyfleusterau ymolchi):
£98.00/wythnos- (contract arlwyedig 5 niwrnod, 2 bryd y dydd)

Hunan arlwyo (ystafelloedd en suite): £78/wythnos

Mae pris biliau e.e. dwr/ trydan yn gynwysedig.

Yn gyffredinol mae'r cytundebau ar gyfer 40 wythnos gan gynnwys gwyliau'r Nadolig a gwyliau'r Pasg. Gall y myfyrwyr aros yn eu llety yn ystod y gwyliau hyn os dymunant - gyda'r myfyrwyr sydd mewn llety ag arlwyaeth yn talu llai gan na ddarperir arlwyaeth. Mae'r tâl yn daladwy mewn tair rhan ar ddechrau pob tymor, yn ogystal â blaendal dychweladwy o £250 wrth lofnodi'r cytundeb, a gedwir fel bond rhag ofn difrod. Mae'r ffioedd yn cynnwys taliadau am wres, golau, dwr a threth y cyngor.

Swyddog Llety

David Doyle
Ffôn: 01267 676714
E-bost: d.doyle@drindod.ac.uk

Arlwyo

Mae bwyd yn cael ei ddarparu ym mhrif ystafell fwyta'r Brifysgol sef Bwyty Merlin a'r Siop Goffi. Ein nod yw darparu ein myfyrwyr gyda gwasanaeth arlwyo llawn dychymyg, eang ac economaidd. Mae ein tîm o gogyddion yn paratoi dewis amrywiol o fwydydd ffres a maethlon. Mae'r dewis ar y bwydlenni'n cynnwys bwyd Indiaidd, Tsieiniaidd, Eidalaidd, Mecsicanaidd a bwyd traddodiadol y DU, yn ogystal â dewisiadau bwydlysieuol a bwydydd iach.

Rheolwr Arlwyo

Michael Neal
Ffôn: 01267 676821
E-bost: m.neal@drindod.ac.uk