MA Rheolaeth & MA Rheolaeth (Treftadaeth)
Ysgol Cyfrifiaduro, Busnes a Thwristiaeth
Oes gennych ddiddordeb i ddilyn gyrfa mewn Rheolaeth? Ydych chi am ddringo’r ysgol i ddatblygu eich proffesiwn? Efallai mai gradd meistr mewn Rheolaeth yw’r man cychwyn ac mae’r Ysgol yn cynnig dwy raglen feistr newydd i ddechrau ym mis Hydref 2008:
- MA Rheolaeth
- MA Rheolaeth (Treftadaeth)
Mae’r cyrsiau yn anelu at ddatblygu sgiliau graddedigion a phobl yn y gweithle sy’n edrych i ymestyn eu gyrfa. Bydd y cyrsiau yn cynnig ystod eang o sgiliau ymarferol sy’n angenrheidiol i ddatblygiad gyrfa yn y byd gwaith heddiw. Bydd cyfuniad o sgiliau rheolaeth ymarferol a gwybodaeth academaidd gyfoes yn rhoi mwy o gyfleoedd i raddedigion a chyflogwyr presennol i ehangu eu gyrfa yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Modiwlau Nodweddiadol
- Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
- Marchnata
- Rheolaeth Gyllidol
- Rheolaeth Strategol
- Rheolaeth Adnoddau Dynol
- eFasnach
Manyleb Rhaglen
Amcanion Addysgol
Prif amcanion addysgol y rhaglen yw:
- gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygu proffesiynol er mwyn galluogi myfyrwyr i arddangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth weithio a chyfrannu at fusnes a chymdeithas yn gyffredinol;
- galluogi myfyrwyr i wneud astudiaeth uwch o sefydliadau, eu dulliau rheoli a’r cyd-destun allanol newidiol maent yn gweithredu ynddo;
- datblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o fusnes a rheolaeth at faterion cymhleth, yn systematig ac yn greadigol, i wella arferion busnes a rheolaeth;
- gwella sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr sef ymchwilio, dehongli a gwerthuso’n feirniadol a’u gallu i weithredu damcaniaeth yn ymarferol;
- datblygu sgiliau deallusol myfyrwyr, gan gynnwys rhesymu beirniadol, dadansoddi, creadigrwydd ac adfyfyrio;
- paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa neu ddatblygu gyrfa ym myd busnes a rheolaeth trwy feithrin sgiliau proffesiynol;
- paratoi myfyrwyr ar gyfer ymchwil neu astudiaeth bellach ym maes busnes a rheolaeth;
- datblygu gwybodaeth a sgiliau ar lefel meistr mewn pynciau busnes a rheolaeth i wella cyflogadwyedd myfyrwyr a’u defnydd o’u disgyblaeth gyntaf.
Deilliannau’r Rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol o sefydliadau, eu hamrywiaeth a’r cyd-destun allanol maent yn gweithredu ynddo a’r modd y cânt eu rheoli.
- Prosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer arwain a rheoli sefydliadau’n effeithiol.
- Rheoli ac ymateb i newid ac ystyried dyfodol sefydliadau a’r cyd-destunau allanol maent yn gweithredu ynddynt.
- Cydgysylltiadau a chydberthnasau rhwng swyddogaethau rheoli, gwneud penderfyniadau a’r cyd-destun allanol.
- Swyddogaethau, diwylliannau, dibenion, strwythurau ac ymddygiad sefydliadau.
- Yr amgylchedd allanol a’i effeithiau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol ar strategaeth, ymddygiad, rheolaeth a chynaliadwyedd sefydliadau.
- Rheoli materion cyfoes sy’n berthnasol i gyd-destunau mewnol ac allanol.
- Cymhwyso’n feirniadol fodelau, fframweithiau, damcaniaethau a thechnegau i hybu arferion rheoli.
- Cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth (CTG) – dealltwriaeth a defnydd o CTG perthnasol i’w gymhwyso i fyd busnes a rheolaeth.
- Arloesi busnes, creadigrwydd a datblygu mentrau.
Sgiliau Gwybyddol
- Gallu meddwl yn feirniadol a bod yn greadigol: rheoli’u prosesau creadigol eu hunain ac eiddo pobl eraill; trefnu syniadau, eu dadansoddi, eu syntheseiddio a’u harfarnu’n greadigol. Mae hyn yn cynnwys y gallu i adnabod rhagdybiaethau, gwerthuso datganiadau o ran tystiolaeth, canfod rhesymeg neu ymresymiad ffug, adnabod gwerthoedd ymhlyg, diffinio termau’n ddigonol a chyffredinoli’n briodol.
- Gallu datrys problemau cymhleth a gwneud penderfyniadau: pennu meini prawf, defnyddio technegau penderfynu priodol yn cynnwys adnabod, fformiwleiddio a datrys problemau busnes; a’r gallu i greu, adnabod a gwerthuso opsiynau; y gallu i weithredu ac adolygu penderfyniadau.
- Y gallu i gynnal ymchwil i faterion busnes a rheoli naill ai’n unigol neu fel rhan o dîm trwy gynllunio ymchwil, casglu data, dadansoddi, syntheseiddio ac adrodd.
- Defnyddio gwybodaeth yn effeithiol: sganio a threfnu data, syntheseiddio a dadansoddi er mwyn echdynnu ystyr o wybodaeth a rhannu gwybodaeth.
Sgiliau Ymarferol
- Perfformio’n effeithiol o fewn timau a’r gallu i adnabod a defnyddio cyfraniadau unigolion mewn prosesau grŵp, a thrafod a pherswadio neu ddylanwadu ar eraill; dewis tîm, dirprwyo, datblygu a rheoli.
- Arweinyddiaeth a rheoli perfformiad: dewis arddull arwain briodol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol; gosod targedau, cymell, monitro perfformiad, hyfforddi a mentora.
- Y gallu i adnabod a mynd i’r afael â phenblethau moesegol a materion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cymhwyso gwerthoedd moesegol a sefydliadol i sefyllfaoedd a dewisiadau.
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Sgiliau rhifedd a sgiliau meintiol gan gynnwys datblygu a defnyddio modelau busnes perthnasol.
- Defnydd effeithiol o Gyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth.
- Cyfathrebu dwyffordd effeithiol: gwrando, mynegi syniadau a dadleuon cymhleth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur, defnyddio ystod o gyfryngau, yn cynnwys paratoi adroddiadau busnes.
- Effeithiolrwydd personol sylweddol: hunanymwybyddiaeth feirniadol, hunan adfyfyrdod a hunan reolaeth; sensitifrwydd i amrywiaeth mewn pobl a gwahanol sefyllfaoedd a’r gallu i barhau i ddysgu trwy adfyfyrio ar arfer a phrofiad.
Ffïoedd
Adolygir y ffioedd yn flynyddol - cysylltwch â ni am wybodaeth.
Cysylltwch â
Mr Glyn Howells
Ffôn: (01267) 676787
E-bost: g.howells@drindod.ac.uk
Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs.
