English
Map o'r Safle
Cyrsiau Israddedig

Cymorth i lwyddo

MyfyrwyrMae Coleg Prifysgol y Drindod yn cynnig nifer o wasanaethau i’ch helpu gyda’ch astudiaethau academaidd.

Cymorth astudio

Ar ddechrau’ch cwrs, byddwch yn cael cyflwyniad sylfaenol i sgiliau astudio a thechnoleg gwybodaeth. Yn ogystal, cynigir ymgynghoriadau ar sgiliau gwybodaeth ac astudio i fyfyrwyr sy’n cael anawsterau gyda’u gwaith cwrs. Mae’r cymorth yn cynnwys datblygu strategaethau astudio effeithiol, gwneud aseiniadau, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer arholiadau.

Myfyrwyr

Tiwtoriaid personol

MyfyrwyrMae staff academaidd yn gweithredu fel Tiwtoriaid Personol er mwyn eich helpu yn ystod eich cwrs a’ch amser yng Ngholeg Prifysgol y Drindod. Mae’r math o gymorth bugeiliol a gynigir yn amrywio gan ddibynnu ar y dulliau mwyaf addas ar gyfer eich cwrs arbennig. Nod y gefnogaeth yw sicrhau eich bod yn cael sylw unigol gan eich tiwtoriaid er mwyn i chi gael trafod materion penodol sy’n ymwneud â’ch dysgu chi.

Cynllun mentora myfyrwyr

MyfyrwyrBydd myfyrwyr yn ail a thrydedd flwyddyn eu cwrs yn gweithredu fel mentoriaid i chi yn eich blwyddyn gyntaf. Byddant yn eich helpu i setlo mewn i fywyd prifysgol ac yn rhoi nifer o awgrymiadau ymarferol i chi ar bob math o faterion o safbwynt y myfyriwr.

Gwasanaethau Rhwydwaith

Mae’r tîm Gwasanaethau Rhwydwaith yn gyfrifol am reoli amrywiaeth o adnoddau cyfrifiadur sydd ar gael i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau. Byddwch yn derbyn cyfrif mewngofnodi i’r rhwydwaith eich hunan er mwyn defnyddio amgylchedd eddysgu’r Brifysgol, y We Fydeang ac e-bost, ynghyd â chymwysiadau prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data a chyflwyniadau. Ceir cyfleusterau TG mewn amryw fannau ar draws y campws ac mae ystafelloedd arbennig gyda systemau arbenigol ar gyfer myfyrwyr addysg gynradd ac astudiaethau’r cyfryngau. Mae gan y Brifysgol rwydwaith diwifr mewn neuaddau preswyl a rhai mannau eraill ar y campws. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i nifer o wasanaethau’r We.

Y parth dysgu Bwrdd Du

MyfyrwyrMae parth e-ddysgu’r Drindod (Bwrdd Du) yn arf cyfoethog i’ch helpu gyda’ch astudiaethau. Byddwch yn gallu cael gafael ar gyngor a help gan eich tiwtor, nodiadau cwrs, adnoddau dysgu, grwpiau trafod gyda chydfyfyrwyr a thiwtoriaid ynghyd ag ystafelloedd sgwrsio.

Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD)

Mae’r Ganolfan yn cynnwys y Llyfrgell a’r Cwad lle ceir stoc helaeth o lyfrau, fideos, DVDs, disgiau Blu-Ray, papurau newydd a chylchgronau i gefnogi gweithgareddau dysgu ac addysgu’r Brifysgol. Hefyd mae CAD wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth electronig o safon uchel dros y Rhyngrwyd ac ar CD-ROM.

Y Ganolfan Adnoddau DysguMae porth gwybodaeth y Brifysgol, HIP, yn chwilio rhychwant o ddefnyddiau ac mae’n caniatáu i chi adnewyddu benthyciadau ar ac oddi ar y campws dros y Rhyngrwyd. Ceir cyfrifiaduron PC yn CAD sy’n rhoi mynediad i adnoddau electronig a chyfleusterau cyfrifiadurol eraill, a gellir benthyca gliniaduron, gwe-lyfrau a pheiriannau DVD i’w defnyddio oddi ar y campws. Mae ein staff yn darparu cyrsiau ar bob lefel i helpu myfyrwyr wneud y defnydd gorau o’r wybodaeth.

Mae’r Llyfrgell fodern a phwrpasol yn darparu awyrgylch braf ar gyfer astudio. Yn y Ganolfan Adnoddau Addysgu cedwir adnoddau arbenigol ar gyfer myfyrwyr addysg, gan gynnwys addysg grefyddol, addysg blynyddoedd cynnar, addysg gynradd, cynhwysiant cymdeithasol a chasgliadau darllen i blant. Mae CAD yn gweithredu oriau agor helaeth iawn ac ystod o opsiynau helpu’ch hunan, sy’n rhoi i chi’r rhyddid i reoli eich astudiaethau’n effeithiol.

Y Cwad

Adnodd dysgu newydd sbon yw’r Cwad a grëwyd trwy adnewyddu’r Ganolfan Adnoddau Dysgu.  Y mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau ar-lein diweddaraf er mwyn cwblhau aseiniadau.  Y mae yma seddau cyfforddus, mannau astudio gyda mynediad diwifr i’r rhyngrwyd, ystafelloedd arbennig ar gyfer gwaith grŵp ynghyd â man eistedd yn yr awyr agored er mwyn creu awyrgylch modern a hamddenol.  Mae yma gyfle hefyd i fwynhau coffi Starbucks a byrbrydau ysgafn yn y siop goffi.