MyfyrwyrMae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig profiadau dysgu ac addysgu rhagorol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r Brifysgol yn arbenigo ym meysydd addysg, y dyniaethau, y celfyddydau creadigol, diwylliannol a pherfformio, yn ogystal â busnes, TG, cynhwysiant cymdeithasol ac iechyd.

Myfyrwyr - Campws Llanbedr Pont Steffan Cynhelir yr addysgu mewn dosbarthiadau bach, mae staff yn flaengar iawn yn eu pynciau, ac mae’r amgylchedd dysgu yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Mae cyfleoedd i astudio dramor ar gael ym mhob maes pwnc ac mae llawer o gyrsiau’n cynnig lleoliadau a phrofiad gwaith.

Gellir ymgymryd â graddau ymchwil naill ai drwy astudiaeth breswyl, astudio o bell neu gyfuniad o’r ddau.  Academyddion o fri rhyngwladol sy’n arolygu gwaith ymchwil ac maent â phrofiad o arwain myfyrwyr ymchwil hyd at gwblhau’u graddau.

Mae’r ddau gampws wedi’u gosod y naill a’r llall mewn lleoliadau hardd, a’r holl gyfleusterau yn cynnwys llety, llyfrgelloedd ac ardaloedd cymdeithasol o fewn pellter cerdded hawdd.

Campws Llanbedr Pont Steffan Cyrsiau Israddedig

Cyrsiau Ôl-raddedig

Cyfleoedd Ymchwil

Cyrsiau Sylfaenol

Cyrsiau Rhan-amser

Dysgu o Bell

Lefelau'r Cymwysterau

Cysylltu â Ni


Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant


Campws Caerfyrddin


Ffôn: 01267 676767


Campws Llambed


Ffôn: 01570 422351