NEWYDDION
13.05.2010 - 14.05.2010 Cynhadledd Cyfrwng
Heb ei Fai...
sioe gerdd ddiweddaraf yr Ysgol Heb ei Fai... i sawl lleoliad yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth. Roedd Heb ei Fai yn ddrama gerdd newydd a ysgrifennwyd yn arbennig i'r Ysgol gan Ceri Elen ac Eilir Owen Griffiths (sydd hefyd yn un o diwtoriaid cerdd yr Ysgol). Roedd y sioe wedi'i gosod yn ardal dociau Caerdydd a Tiger Bay yn 1910, ac yn olrhain hanes nifer o lofruddiaethau gwaedlyd sy'n digwydd yno. Cydweithiodd myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn ar y cynhyrchiad hwn, gan gymryd cyfrifoldeb am ystod llawn o sialensau llwyfannu sioe gerdd ar daith: o berfformio ar y llwyfan i chwarae'n y band; ac o weithredu'r sain a'r goleuadau i greu ymgyrch farchnata. Gallwch ddilyn datblygiad y cynhyrchiad ar wefan y cynhyrchiad a gynlluniwyd gan Gwion Jones a Rhys Jenkins, dau o fyfyrwyr yr 2il flwyddyn.
Enwebiadau Gwobrau Ffresh
Daeth nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Ysgol Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau i'r brig yng nghystadleuaeth Gwobrau Ffresh eleni. Dyma gystadleuaeth cenedlaethol sy'n dathlu gwaith myfyrwyr sy'n astudio o fewn y meysydd cyfryngol yng Nghymru. Enwebwyd tri ffilm yn y categori i waith yn y Gymraeg, sef:
- ffilm fer Gareth Wyn Roberts Lyci Nymbar Nain,
Pan mae Nain yn marw, y peth olaf mae dyn ifanc yn disgwyl yw clatsio, herwgipio a chyffuriau. Mae’r ffilm fer gynhyrfus hon yn byrlymu gyda’r cwbl. Oh, a thocyn loteri arbennig hefyd...
"Dechrau gwych, cymysgedd da o naratif cryf a diddorol gyda steil a dawn a hiwmor. Cefais fy nenu o’r cychwyn ac roedd y themâu yn fyd-eang e.e. trachwant, bradychiad, ymddiriedolaeth ond wedi ei dweud trwy gymeriadau y gallwn eu credu yn llwyr. Ymgais prin yn y gystadleuaeth gan ei bod yn llwyddo i gymysgu stori gyda chyfarwyddyd dychmygus da." Cath Treganna (Beirniad Ffresh)
- ffilm ddogfen Carys Davies, Sian Elin Evans a Nia James Bwrw Gwreiddiau.
Rhaglen ddogfen sy’n dilyn taith criw o fyfyrwyr i dalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau, ac sy’n cymharu eu profiadau â’r rheiny a ymfudodd yno ganrifoedd yn ôl.
"Cyfarwyddo swynol gyda defnydd da o waith camera sepia. Taith ddiddorol, cysyniad da ac roedd yn hwyl dod i nabod y myfyrwyr ymglymedig. Roeddwn eisiau gwybod sut y gwnaethant ddod ymlaen yn Ohio a ffeindiais y thema yn ddeniadol. Ar y cyfan, dogfen dda." Cath Treganna (Beirniad Ffresh)
- rhaglen ddogfen Catrin Newman Gwenwyn y Geiriau
Rhaglen sy’n archwilio ymdriniaeth y wasg o hanes diweddar yr hunanladdiadau ymysg pobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr."Dogfen pynciol am sylw’r wasg yngylch hunanladdiadau Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n cymryd ongl diddorol tuag at sylw’r wasg, yn cymsgu cyfraniadau gan weithwyr proffessiynol, pobl y dref a phobl ifanc ar y stryd. Defnydd teimladwy o olygu." Cath Treganna (Beirniad Ffresh)
Enwebwyd y rhaglen hon yn y categori TV yn ogystal, gyda'r Beirniaid yn nodi:
"Rhaglen ddogfen ddifrifol ar fater sensitive sydd wedi’i ymchwilio yn dda."
Estynnwn ein llongyfarchiadau i'r myfyrwyr i gyd, ac yn arbennig i Gareth Wyn Roberts am ennill y categori Cymraeg yn y Noson Wobrwyo ar Chwefror 12fed
Llwyddiant yn y Genedlaethol
Cafodd sawl un o'n myfyrwyr presenol a'n cyn-fyfyrwyr lwyddiant yng nghystadleuthau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala. Ennillodd Huw Bryant gystadleuaeth Cyflwyniad Digri; Unigol, gyda Mari Emlyn un o'n cyn-fyfyrwyr yn 3ydd yn yr un gystadleuaeth. Enillodd Lynwen Haf Roberts ar yr Unawd Allan o Sioe Gerdd i rai dros 19 mlwydd oed, gyda Mared Elliw Huws un arall o'n cyn-fyfyrwyr yn ail iddi. Daeth Steffan Parry yn 3ydd ar y gystadleuaeth Adrodd Unigol 19-25oed, tra enillodd Gwydion Rhys gystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton ynghyd ag Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts ar sail ei berfformiadau ar y nos Fercher. Cafodd brawd Gwydion, Trystan Griffiths (a raddiodd o'r Ysgol llynedd) hefyd lwyddiant ar gystadleuaeth Y Gân Ffrengig 19-25 oed, gan fynd yn ei flaen i ennill Gwobr Goffa Osbourne Roberts. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!
Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bu dau o fyfyrwyr yr Ysgol yn cystadlu am wobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel yng Nghanolfan y Mileniwm yn ddiweddar ar ôl iddynt ennill cystadleuthau perfformio yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Cychwynodd Gwydion Rhys (enillydd yr Unawd Allan o Sioe Gerddorol 19 - 25) ar ei flwyddyn olaf o astudiaeth ar y cwrs BA Celfyddydau Perfformio yn mis Medi. (Daeth dau o gyn fyfyrwyr yr Ysgol yn ail a thrydydd iddo yn yr un gystadleuaeth sef Glesni Fflur a Laura Blundall).
Yr ail fyfyriwr oedd Lisa Marged sy'n hanu o Nantycaws, yn dilyn ennill y gystadleuaeth Cyflwyniad Theatrig Unigol 19 - 25 oed. Graddiodd Lisa gyda gradd Dosbarth 1af eleni ar gwrs BA Yr Actor a'r Celfyddydau.
Criw Rio Grande 2009 yn dychwelyd
Yn ddiwedar dychwelodd 11 o fyfyrwyr yr Ysgol yn ôl o'r Unol Daleithiau wedi treulio cyfnod o 5 mis yn astudio ym Mhrifysgol Rio Grande - Ohio. Yn y blynyddoedd diweddar, ffurfiodd yr Ysgol bartneriaeth gyda'r Brifysgol yn Rio Grande, sy'n galluogi ein myfyrwyr i dreulio cyfnod o astudiaeth yno drwy geisio am le ar ein modwl Astudiaeth Annibynnol Rhyngwladol ac sy'n rhan o gynllun gradd myfyrwyr yr 2il flwyddyn. Roedd modd i'r myfyrwyr ddilyn gwersi perthnasol i'w meysydd astudiaeth yn Rio Grande. Fe gafwyd cyfle hefyd i deithio cynhyrchiad theatr dyfeisiedig - 'Lonesome Valley' - dan gyfarwyddyd Dr. Greg Miller mewn nifer o leoliadau yn Ohio ynghyd â pherfformiadau yn Efrog Newydd fel rhan o ŵyl Wales Week
Wales Week in NYC 2009 (pdf)
Dyma adeilad Canolfan Madog ar gampws Prifysgol Rio Grande. Mae'r dref wedi mabwysiadu baner Y Ddraig Goch i adlewyrchu cysylltiadau teuluol Cymreig nifer fawr o drigolion yr ardal.
Clymau
Cafwyd taith llwyddiannus o sioe gerdd yr Ysgol yn gynharach eleni sef gwaith a gomisiynwyd gan Ceri Elen - un o dalentau ysgrifennu diweddaraf Cymru - ar y cyd â un o diwtoriaid cerdd yr Ysgol Eilir Owen Griffiths. Llwyfannwyd y cynhyrchiad mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad yn ystod mis Chwefror, a chafwyd addasiad ohono ei berfformio gan y myfyrwyr yn The Procucer's Club II, Broadway - fel rhan o ddathliadau gŵyl 'Wales Week' yn Efrog Newydd. Mae'r stori wedi'i seilio yn fras ar hanes y dywysoges Siwan - gwraig Llywelyn Fawr - a'i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Fodd bynnag, fe'n cyflwynwyd hefyd i nifer o gymeriadau lliwgar eraill oedd yn rhan o Lys Llywelyn. Roedd yn stori am obaith ac anobaith, ac - wrth gwrs - yn stori am gariad.
Y Côr Yn Washington
Cynhaliwyd Gwyl Werin y Gymdeithas Smithsonian yn Washington yn ddiweddar. Diben yr Wyl yw i ddathlu diwylliant gwlad arbennig bob blwyddyn, ac yn 2009 canolbwyntiwyd ar Gymru a’n diwylliant. Roedd yn ddigwyddiad arbennig a fu'n gyfle i ddathlu y celfyddydau a thraddodiadau Cymreig. Rai misoedd yn ôl fodd bynnag, derbyniodd yr Ysgol wahoddiad i gymryd rhan yn lansiad yr Wyl a ddigwyddodd ar adeg Dydd Gwyl Dewi. Cafodd ein myfyrwyr brofiadau bythgofiadwy wrth ganu detholiad o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol Gymreig ger bron gwleidyddion a phwysigion yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn nWashington gan gynnwys Prif Weinidog Cymru - Rhodri Morgan.
Bwletin
Ar Hydref yr 16eg, bu BBC Radio Cymru yn recordio’r rhaglen banel ddychanol ‘Bwletin’ gyda’r cyflwynydd Gary Slamaker yn adeilad Y Stiwdio ar y campws. Roedd Caryl Parry Jones, Kevin Davies a Dewi Pws yn cymryd rhan yn ogystal.
Gweithdai Cwmni Sherman Cymru
Yn ystod y flwyddyn, bu aelodau o Gwmni Sherman Cymru o Gaerdydd yn gweithio gyda chriw o fyfyrwyr y 3edd flwyddyn mewn cyfres o weithdai ar gyfansoddi a sgriptio dramâu. Yn dilyn hyn, aeth y myfyrwyr ati i gynhyrchu a llwyfanu eu gwaith yn ystod mis Rhagfyr gan gyfarwyddo eu cyd fyfyrwyr o’r 2il a’r 1af.
