Cyfleoedd am Swyddi
Cynorthwyydd Rhyngwladol
Disgrifiad Swydd
Arolygu’r gwaith gweinyddol o fewn y Swyddfa Ryngwladol, gan gynnwys prosesu ceisiadau ac ymholiadau myfyrwyr rhyngwladol a chynnal y gronfa ddata ymholiadau. Delio ag ymholiadau a derbyniadau myfyrwyr yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion bugeiliol myfyrwyr Rhyngwladol a leolir ar gampws Llanbed o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Lleoliad: Swyddfa Rhyngwladol
Campws: Campws Llambed
Cyflog: Gradd 3 £16,629
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 09.09.2010
Ffôn: 01267 676619
E-bost: humanresources@ydrindoddewisant.ac.uk
Pennaeth yr Ysgol Celf, Ffilm a'r Cyfryngau
Disgrifiad Swydd
Rydym yn awyddus i benodi academydd ac ymarferwr nodedig ym meysydd Celf, Ffilm a’r Cyfryngau er mwyn cynnig yr arweinyddiaeth a’r weledigaeth strategol sydd eu hangen i fwrw ymlaen â gwaith yr ysgol newydd hon. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o reoli ym maes Addysg Uwch a phrofiad o Addysg Uwch mewn Addysg Bellach. Mae hon yn swydd unigryw am ei bod yn benodiad ar y cyd â Choleg Celf Gorllewin Cymru yng Ngholeg Sir Gâr, a bydd deiliad y swydd yn rheoli gweithgarwch yn y naill sefydliad a’r llall. Bydd y swydd yn cynnwys dod â nifer o dimau ar nifer o gampysau at ei gilydd ac felly mae tystiolaeth o’r gallu i reoli newid yn llwyddiannus yn ofyniad ychwanegol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau rhyngbersonol datblygedig iawn a disgwylir iddo sicrhau bod yr Ysgol yn parhau i fod ar y blaen o ran datblygiadau ym maes addysgu a dysgu mewn addysg bellach ac uwch.
Bydd modd i’r penodiad hwn ddechrau ar 1 Hydref 2010 a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus a benodir ddechrau ar ei swydd fel pennaeth ar y dyddiad hwn neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, a wnewch chi anfon e-bost at Ddeon presennol Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Mr Kevin Matherick (k.matherick@ydrindoddewisant.ac.uk)
Adran: Ysgol Celf, Ffilm a’r Cyfryngau
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 09.09.2010
Ffôn: 01267 676619
E-bost: humanresources@ydrindoddewisant.ac.uk
Darlithydd Rhan-amser (0.5 CALL) mewn Ffilm ac Astudiaethau'r Cyfryngau
Disgrifiad Swydd
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd dros dro Darlithydd Rhan-amser (0.5 CALL) mewn Ffilm ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn yr Ysgol Celf, Ffilm a'r Cyfryngau ar Gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu modylau sy’n ymwneud â phob agwedd ar gynhyrchu digidol camera sengl gan gynnwys sgriptio, camau cyn cynhyrchu, saethu a golygu. Byddai ymwybyddiaeth o’r modd y gellir defnyddio cynyrchiadau’r cyfryngau ym myd busnes mewn cyd-destunau lleol a byd-eang yn ddymunol.
Rydym yn chwilio am gydweithiwr dynamig a all gynnig ei arbenigedd a’i brofiad penodol a chyfoethogi portffolio addysgu tîm o staff academaidd sy’n cynnwys ysgolheigion academaidd traddodiadol ac ymarferwyr.
Campws: Campws Caerfyrddin
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 13.09.2010
Cysylltu â'r adran Adnoddau Dynol: I gael rhagor o fanylion a ffurflen gais, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol
Ffôn: 01267 676619


